Cyngor Budd-daliadau Lles
Mae diwygio lles wedi cael effaith enfawr ar filoedd o bobl. Efallai eich bod yn ddryslyd am eich hawliau a sut i wneud cais, neu os mae eich taliadau wedi lleihau neu stopio yn gyfan gwbl.
Mae ei’n cyngor ar gael i unrhyw un sydd yn byw neu weithio yng Nghaerdydd ac yn helpu chi gwybod pa fudd y byddech a hawl i a darganfod sefydlogrwydd ariannol. Rydym yn gallu eich grymuso chi i herio dewisiadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr awdurdod lleol, a ‘JobCentre Plus’.
Galwch ni heddiw ar 029 2045 3111 neu e-bostiwch at info@speakeasy.cymru
HAWLIAU
Does neb yn gwybod beth sydd o’u blaen nhw. Pan fydd dy fywyd yn newid, beth bynnag yw’r rheswm, gallet ti fod yn gymwys i hawlio cefnogaeth ariannol i wneud pethau ychydig jest ychydig bach yn rhwyddach. Gallwn ni dy helpu i weithio mas pa help sydd ar gael a sut wyt ti’n gallu ei hawlio.
APELIADAU
Weithiau mae’r DWP yn gwneud penderfyniad sy’n annheg, yn anghywir neu hyd yn oed yn anghyfreithlon. Gallwn ni dy helpu trwy’r broses apeliadau o safbwynt ail-ystyriaethau gorfodol, cyflwyniadau ysgrifenedig ac mewn rhai achosion cynrychiolaeth o flaen tribiwnlys.
CREDYD CYNHWYSOL
Os ydy cyflwyno CC wedi effeithio arnat gallwnni dy helpu i ddatrys problemau gan gynnwys hawl preswylio, taliadau hwyr, dyledion rhent a didyniadau anfforddiadwy. Os wyt yn hawlio budd-daliadau etifeddiaeth gallwn dy gynghori ynghylch effaith trosglwyddo i CC.