Rhannu’r baich

Ymladd anghyfiawnder

Dod a gobaith

Cyngor cyfreithiol di-dâl ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, sy'n mynd i'r afael â materion lles cymdeithasol gan gynnwys budd-daliadau lles, dyled, tai, a chyfraith cyflogaeth.



Os ydych angen cymorth gydag unrhyw o’r achosion isod, galwch ni ar 029 2045 3111 neu e-bostiwch info@speakeasy.cymru a byddwn yn eich rhoi yn gysylltiad gydag un o’n cynghorwyr arbenigol cyn gynted â phosib, fel arfer o fewn 2 dydd gweithio. Os byddech yn ffeindio hi’n anodd siarad gyda chynghorwr dros y ffon neu e-bost, gallwn drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb.

 

Oriau agor

Mae ei’n swyddfa ar agor rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener rhwng 10yb ag 1 yh. Fe fydd rhai apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael a gallwch ddod a dogfenni i'r swyddfa i gael eu copïo pan fydd rhaid am eich achos.

 Byddwn yn parhau i gynghori a chefnogi cleientiaid dros ffon ac e-bost.

Os ydych angen cyngor gydag unrhyw o’r achosion isod galwch ni ar 029 2045 3111 neu e-bostiwch info@speakeasy.cymru a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad gydag un o’n cynghorwyr arbenigol cyn gynted â phosib, fel arfer o fewn 2 dydd gweithio.

Diswyddo annheg
Gwahaniaethu
Prosesau disgyblu
Diswyddo
Contractau dim oriau

Apeliadau
Ôl-ddyledion ac ôl-ddyddio
Twyll honedig
Cymhwyster
Stopiau a sancsiynau Gordaliadau

Beilïaid
Cardiau credyd a benthyciadau Ôl-ddyledion Treth Gyngor
Ôl-ddyledion rhent
Dirwyon parcio
Talu benthyciadau diwrnod

Adferiad adneuo
Adfeilio
Dadfeddiant
Anghydfodau landlord
Diswyddo tenantiaeth Digartrefedd

“Rydw i mor hapus…mae fe i gyd lawr i chi. Mae fel bod rhywun ar fy ochr i. Rwy’n gallu cymryd anadl nawr. Bydd hyn yn gadael i fi gael rhywle i fyw. Mae’n anhygoel. Diolch.” 

Ffeindiwch Ni

 

166 Richmond Road
Caerdydd
CF24 3BX

029 2045 3111
info@speakeasy.cymru

“Diolch yn fawr am bopeth… ni allaf esbonio beth yw’r rhyddhad. Diolch am eich holl waith caled.”

ein dylanwad

Does dim geiriau ‘da fi i ddweud yn iawn mor ddiolchgar rwy’n teimlo am eich cefnogaeth! I fod yn onest, rwy wedi ffeindio’r 14 mis diwethaf yn anobeithiol ar adegau. Yn waeth na dim, yn ddibwynt. Mae eich cefnogaeth wedi bod yn ffantastig.
— 14.11.2018
Rwy mor falch..i chi mae’r diolch i gyd. Mae e fel ‘sa ‘na rywun wrth fy ochr. Gallaf anadlu’n well nawr. O’r blaen doedd dim arian ‘da fi. Bydd hyn yn meddwl mod i’n gallu ffeindio lle i fyw. Mae’n anhygoel. Diolch.
— 16.01.2018
Roedd ansawdd y cyngor cyfreithiol yn wych, o’n i’n teimlo’n gyffyrddus iawn yn ateb cwestiynau…proffesiynol iawn, caredig, cydweithredol bob amser…Rwy’n credu bod Speakeasy’n gwneud job arbennig a’u bod yn chwarae rhan werthfawr yn y gymuned.
— 30.11.2017

Ein dyheuad yw helpu pobl i ddod o hyd i gyfiawnder. Mae pawb yn ein tîm o gyfreithwyr a chynghorwyr yn arbenigwyr yn eu maes ac felly medrwn helpu gyda’r problemau mwyaf astrus. Ni yw’r unig gorff elusennol i gynnig cytundebau hyfforddiant uchel eu parch Cymdeithas Cyfiawnder Cyntaf i’r rhai sy’n dilyn gyrfa mewn cyfraith lles cymdeithasol ac ryn ni wedi derbyn sawl gwobr am ein gwaith arloesol. Mae ‘da ni Nod Ansawdd Arbenigol Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i chi gael bod yn hyderus bod ein gwasanaeth yn cael ei reoli’n dda ac yn cynnig gofal gwych i’n clientiaid.

Cyfreithiwr y Flwyddyn Pro Bono 2003

Cyfreithiwr y Flwyddyn Pro Bono 2003

Gwobr LawWorks Cymru 2015 & 2016

Gwobr LawWorks Cymru 2015 & 2016

Cymrodyr Cyfiawnder Cyntaf 2018

Cymrodyr Cyfiawnder Cyntaf 2018

“Rydw i ar goll am eiriau i fynegi fy niolchgarwch yn ddigonol, fy niolch am eich cefnogaeth! Mae eich cefnogaeth wedi bod yn anhygoel.”

edited.jpg

Rhoi

Mae ein holl wasanaethu ar gael i unrhyw un sydd angen ein help. Dyn ni ddim yn codi tâl. Byth.

Mae hyn ond yn bosibl trwy haelioni ein cefnogwyr sydd yn rhoi be maen nhw’n gallu er lles eu cymuned.