Ein dylanwad

Bob blwyddyn rydym yn cefnogi tua 2,000 o unigolion a theuluoedd. Mae mwyafrif y bobl sy'n dod atom am help mewn argyfwng ac yn aml yn agored i niwed:

 

Gwendidau cleientiaid (%)

 
 

Materion iechyd cleientiaid (%)

 
Ni allaf egluro pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud yn dod i’r cyfarfod y bore yma. Diolch yn fawr am fy helpu i ddechrau ar ddatrys fy mywyd !! Diolch i chi am fod mor ddeallus ac am beidio â fy meirniadu am y llanast rydw i wedi cael fy hun ynddo. Diolch.
— 29-09-17
Roedd Speakeasy yn hynod o ddefnyddiol, yn hael gydag amser, yn gefnogol ac wedi’i drefnu’n dda. Heb Speakeasy rwy’n sicr na fyddwn i wedi gallu adennill fy mlaendal. Roedd ansawdd y cyngor cyfreithiol yn ardderchog ... roedd Bethan yn hollol wych.
— 30-11-17
 

Ar ddiwedd eu taith gyda ni, rydym yn gofyn i'n cleientiaid sut maen nhw'n teimlo o ganlyniad i'n cefnogaeth. Mae effaith hirdymor ein cymorth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddatrys yr argyfwng uniongyrchol. Rydym yn gwrando ar bobl i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw, pa faterion dyfnach sy'n cael eu chwarae a beth maen nhw ei eisiau gennym ni. Rydym yn esbonio pethau mewn termau syml fel y gall pobl wneud penderfyniad gwybodus ar sut y maent am symud ymlaen. Mae ein partneriaethau â sefydliadau a gwasanaethau eraill yn cysylltu pobl â chymorth pellach i fynd i'r afael â materion ehangach y tu hwnt i'n harbenigedd fel caethiwed, chwalu perthynas neu golli beichiogrwydd.

 

Deilliannau cleientiaid (%)

 

Y llynedd, am bob £ 1 o arian a gawsom, sicrhawyd £ 8.49 o fudd ariannol i'n buddiolwyr, gan gynnwys:

  • £1.3m o ddyled bersonol na ellir ei rheoli wedi'i dileu

  • £345,000 mewn taliadau untro yn lle buddion a gafodd eu stopio neu eu tynnu'n ôl yn annheg

  • £780,000 mewn taliadau budd-dal blynyddol parhaus, yn bennaf i gefnogi pobl sâl ac anabl a'u gofalwyr

Er bod y canlyniadau ariannol hyn yn dod â synnwyr o raddfa i'n gwaith, mae ein gwasanaethau'n cael effaith ddofn a phellgyrhaeddol ar fywydau'r bobl yr ydym yn eu cefnogi.

 

Astud-iaethaU achos

Jane

Pan alwon ni ar Jane darganfuon ni ei bod hi wedi hunan-ddadgysylltu yn sgil dyledion taliadau sefydlog ar ei mesurydd nwy cyn-daliad dros yr haf. Golygai hyn fod 90% o bob taliad atodol yn cael ei lyncu gan ei dyled. Roedd hi’n methu fforddio llenwi ei mesurydd pan oedd pethau ar eu gorau, heb son am ychwanegu arian pan nad oedd ei mesurydd ddim yn rhoi nwy iddi.

Trefnon ni bod ei dyled ‘sgrîn flaen’ yn cael ei symud fel ei bod hi’n gallu ei had-dalu ar raddfa fforddiadwy . Roedd hyn yn ei wneud yn haws o lawer iddi fforddio talu mewn i’r mesurydd eto.

Wedi ei hail-gysylltu, rhoddon ni gyngor ar ei defnydd o ynni i’w helpu i leihau hynny, ei helpu i geisio’r Disgownt Cartrefi Cynnes i dynnu £140 o’i bil trydan a rhedeg gwiriad o’i hawliau budd-daliadau lles. Amlygodd y gwiriad y ffaith bod hawl ganddi i fudd-daliadau ychwanegol oherwydd ei phroblemau iechyd. Gwnaeth Jane gais am ei hawliau cyfan a chododd ei hincwm o £61.85 yr wythnos. Derbyniodd hefyd ôl-daliad o ryw £3,700 am y cyfnod pan ddylai hi fod wedi bod yn derbyn y cymorth ariannol ychwanegol hwn, gan adael Jane gyda thalpswm i brynu eitemau anhanfodol am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Gyda’n help, mae Jane bellach yn gallu fforddio cynhesu ei chartref ac yn deall sut i wneud y gorau o’r egni mae’n defnyddio. Wrth ei helpu i ddod o hyd i sefyllfa fwy sefydlog, ein gobaith yw na fydd rhaid iddi fynd trwy aeaf arall heb wresogi digonol.

 

Jamal

Daeth Jamal i un o’n clinigau tai i gael cyngor am broblem gyda’i landlord blaenorol. Roedd Jamal yn fyfyriwr ac yn rhannu tŷ gyda 5 person arall.

Ar ddiwedd eu tenantiaeth cawson nhw fil am atgyweiriadau a glanhau. Gan eu bod yn anhapus gyda nifer o eitemau ar y bil, cysyllton nhw â’r Cynllun Blaen-daliadau Tenantiaeth a gofyn am gael defnyddio’r Gwasanaeth Datrys Anghydfod Amgen i herio maint y swm oedd yn cael ei ddidymu o’u blaen-dâl.

Sylweddolon nhw wedyn nad oedd y landlord wedi diogelu maint llawn y blaen-dâl, er gwaethaf y ddyletswydd gyfreithiol i wneud hynny. Cysyllton ni â’r landlord ar ran Jamal i geisio datrys yr anghydfod, ond gwrthododd symud a pharhaodd i ddal gafael ar fwy na £1000 o’r blaen-dâl.

Rhoddon ni gyngor i Jamal ynglyn â phroses y llys a pha dystiolaeth y dylai ei rhoi gerbron. Wedyn cyflwynodd Jamal ei achos yn y Llys Sirol ac ennill. Enillodd Jamal a’i gyd-letywyr iawn-dâl yn cyfateb i ddwywaith y blaen-dâl gwreiddiol, ynghyd â 5% o log am y cyfnod pan gafodd y blaen-dâl ei atal.

Roedd gweddill y tŷ wrth eu bodd. Ryn ni mor ddiolchgar am yr holl amser dreulioch chi yn ein helpu ac am yr holl gymorth a chefnogaeth. Dw i wir ddim yn gwybod beth fyddem ni wedi ei wneud heb eich help!